Ardaloedd Coetir
Mae Mynwent Ardal Llanelli yn cynnig opsiynau claddu naturiol mewn ardal goetir lle y lleolir beddau dyfnder sengl ymysg coed pîn aeddfed.
Diffinir claddedigaeth naturiol fel: “Claddedigaeth gweddillion dynol lle y mae’r ardal gladdu yn creu, yn diogelu neu yn gwella cynefinoedd sydd yn llawn bywyd gwyllt. Lle y byddai angladd yn rhagflaenu’r fath gladdedigaeth, yn nodweddiadol byddai’n ceisio lleihau unrhyw effaith amgylcheddol”
Cyn dewis claddedigaeth naturiol neu goetir rhaid i chi benderfynu ar eich blaenoriaethau chi, eich teulu a’r ymadawedig. Ni fydd yr ardaloedd Coetir yn cael eu rheoli yn yr un ffordd ag ardaloedd claddu confensiynol, felly dylech ystyried yn ddwys eich blaenoriaethau personol cyn dewis claddedigaeth yn yr ardaloedd hyn, gan y byddwn yn gorfodi’n llym ar bob achlysur y rheoliadau yn ymwneud â chofebion a chynnal a chadw’r tir.