Beddau Preifat
Rhoddir hawliau claddu unigryw i fedd preifat at ddefnydd perchennog yr hawliau claddu yn unig. Mae’n bosibl dal hawliau claddu unigryw ar y cyd, a’u trosglwyddo neu eu hetifeddu. Am wybodaeth bellach ewch i’r adran Hawliau Claddu Unigryw os gwelwch yn dda.
Mae Hawliau Claddu Unigryw yn rhoi hawliau claddu dros y bedd o dan sylw i’r prynwr/prynwyr am y cyfnod y bydd yr hawliau hynny mewn grym.
Ar hyn o bryd, mae’r Awdurdod Claddedigaeth yn cynnig hawliau dros feddau newydd am 30 neu 50 mlynedd. Ni fydd y prynwr yn berchen ar y tir; yr Awdurdod Claddedigaeth sy’n dal i berchen y tir ac fe all gynnal y tir yn unol â’r canllawiau a osodwyd yng Ngorchymyn Mynwentydd Awdurdodau Lleol 1977.