Hanes
Mae sefydlu’r fynwent yn tarddu o’r gynnen rhwng yr eglwys sefydledig a’r capeli yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ers y blynyddoedd cynnar, roedd anghydffurfwyr yn cael eu claddu ym mynwent yr eglwys yn Hen Heol, ond nid oedd gan weinidogion yr hawl i weinyddu’r claddedigaethau. Pan fyddai’r angladd yn cyrraedd porth y fynwent byddai’r Ficer yn cymryd yr awennau.
Ym 1850 cynhaliwyd cyfarfod i drafod y posibilrwydd o gael darn o dir ger y dref a fyddai’n fan claddu i bawb, waeth beth oedd ei hil, lliw neu grefydd. Penderfynodd cynrychiolwyr yr enwadau a oedd yn bresennol brynu cae dwy erw o faint. Un o’r rheolau a fabwysiadwyd gan yr ymddiriedolwyr gwreiddiol oedd y byddai gan dylwyth a ffrindiau’r ymadawedig yr hawl i ddewis unrhyw weinidog a gydnabyddwyd gan y Bedyddwyr, yr Annibynwyr, y Wesleiaid neu’r Methodistiaid Calfinaidd i weinyddu’r gwasanaeth angladdol.
Mae’r gweinyddwyr wedi aros yn driw i’r cysyniad gwreiddiol hyn, a bydd tro o gwmpas y fynwent heddiw yn dangos bod pobl o bob ffydd wedi’u claddu ym Mynwent Llanelli.
Erbyn 1874 lledaenwyd y gweinyddiad i gynnwys holl gapeli’r ardal. Wrth i’r dref dyfu, felly wnaeth y fynwent. Dros y blynyddoedd cafodd ei hymestyn sawl gwaith, ac mae’r datblygu a’r ymestyn yma’n parhau hyd at heddiw. Defnyddiwyd yr estyniad diweddaraf am y tro cyntaf ym mis Hydref 2009, a bydd yr ardal hon yn darparu cyfleusterau claddu am yr hanner canrif nesaf.
Yn wreiddiol, yr enw ar y fynwent oedd ‘Mynwent Llanelly’ neu ‘Mynwent y Bocs’, gyda’r enw hyn yn adlewyrchu enw’r ardal lle y mae’r fynwent wedi’i lleoli, er does neb yn sicr paham y galwyd y fynwent yn ‘Bocs’. Roedd pobl yn cyfeirio at yr ardal wrth yr enw ymhell cyn sefydlu Glofa’r Bocs (un o’r hynaf yn Llanelli) yn yr ardal ar ddechrau’r 19eg ganrif, ac yn sicr ymhell cyn i’r fynwent gael ei hagor.
Mae’r gladdfa wreiddiol yn esiampl nodweddiadol o fynwent Fictoriaidd, gyda nifer fawr o gofebion mawr monolithig. Mae ardaloedd gwreiddiol y fynwent wedi’i cynllunio mewn ffordd sy’n nodweddiadol o’r cyfnod, gyda’r mwyafrif o’r beddau’n wynebu i gyfeiriad y dwyrain/y gorllewin.
Ym 1976, cytunodd ymddiriedolwyr yn cynrychioli dau ddeg dau capel Anghydffurfiol i werthu’r fynwent i Gyngor Cymunedol Gwledig a Chyngor Tref Llanelli. Ffurfiwyd Cyd-Awdurdod Claddedigaeth Llanelli yn 1977, ac fe ail-enwyd y fynwent unwaith yn rhagor a’i galw yn Fynwent Ardal Llanelli.