Safonau Gwasanaeth y Fynwent
Ein nod yw cynnal y fynwent i safon sy’n cynnig lle cyfforddus, tawel a myfyrgar i bawb sy’n ymweld ac i geisio cadw at safonau uchel o ran gwasanaeth a cynnal a chadw’r tiroedd.
Rydym yn ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon. Ond, ambell waith, byddwn yn llithro. Rydym yn benderfynnol o weithredu ar unrhyw gwyn ac, o ganlyniad, gwella’n gwasanaeth os ydy hynny’n bosibl. Wrth ddweud wrthon ni pan fydd pethau heb fod cystal, gallwch ein helpu i ddodi pethau’n iawn, ac i wella’n gwasanaeth i bawb.
Os ’dych chi’n anhapus gydag unrhyw wasanaeth a gynigir yma, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda. Os byddwch yn dal i fod yn anhapus gyda’n hymateb, gallwch fynd â’ch cwyn ymhellach gerbron Aelodau’r Cyd-Awdurdod Claddedigaeth. Mae copi o’n canllawiau cwyno ar gael ar gais o swyddfa’r fynwent.