Y Capel
Mae ’r Capel wedi ’i leoli ger y brif fynedfa i’r fynwent ar Heol Abertawe.
Adeiladwyd y Capel yn 1875 a chafodd ei adnewyddu yn 1981. Mae lle i 80 o bobl yn y capel, mae’n anenwadol ac mae’n lleoliad traddodiadol ar gyfer gwasanaethau angladdol a choffa.
Mae’r Capel ar agor yn ystod yr wythnos a gall y cyhoedd ei ddefnyddio am fyfyrdod preifat. Mae ’n bosibl llogi ’r Capel ar gyfer gwasanaeth, gyda ’r cost yn cynnwys defnydd o’r organ a ’r system sain.